cig eidion
-
Cig Eidion
gan Bob Jones a'i Fab
Daw'r cig eidion a werthwn o'n gwartheg ein hunain a enir ac a fegir ar ein fferm ein hunain.
-
Mae blas traddodiadol arbennig i'n cig eidion a gaiff borthiant glaswellt y mae dulliau cyfoes, dwys, sydd wedi’u cyflymu'n gemegol, ymhell o'i efelychu.
Daw ein hanifeiliaid o stoc a fagwyd o wartheg gawsant hwythau fagwraeth a gofal y teulu dros y ganrif ddiwethaf. Rydym yn gwybod llinach ein holl anifeiliaid.
- Ni fyddwn FYTH yn defnyddio porthiant artiffisial
- Ni fyddwn FYTH yn defnyddio hormonau tyfu.
- Ni fyddwn FYTH yn rhoi gwrthfiotig yn rheolaidd.
- CYNNYRCH HOLLOL NATURIOL.
- RHOWN WARANTIAD FOD EIN CIG YN DDIOGEL
Y GWARTHEG
Gyrr o wartheg Duon Cymreig wedi'u croesi a theirw Limousin a Charolais sydd yma. Rhy hyn flas a thynerwch hynod i'r cig a chyda braster isel y Limousin a'r Charolais, ceir cig eidion o'r ansawdd gorau gyda'r mesurau perffaith.
Caiff ein gwartheg ifanc a'n hŵyn eu magu a'u bwydo, a dysgant bori gan eu mamau, ar ein porfeydd breision ar lan y Culfor Menai. Ymhen amser, cant eu diddyfnu'n naturiol gan eu mamau. Rydym yn ffermio yn yr hen ffordd draddodiadol sydd, fel y gwyddom, yn cynhyrchu'r eidion a'r ŵyn gorau, sy'n fwy blasus a mwy diogel, yn naturiol ac yn y ffordd Gymreig.
WEDI EU MAGU AR BORFA'N NATURIOL
Chaiff magu fyth ei frysio, ac mae gan yr anifeiliaid fywyd pur fodlon a hamddenol gyda diet o laswellt traddodiadol (gwellt yn y gaeaf), a digonedd o le ac awyr iach.
Cig Eidion Cymreig
- Yn Naturiol Gymreig
- Yn Naturiol Flasus
- Wedi’u Bwydo ar Laswellt yn Unig
- Dim Porthiant Synthetig
- Dim Gwrthfiotig
- Dim Hormonau
- Natur yn Unig
Daw blas bendigedig ein cig o'r glaswellt a blodau'r ddôl a dyf ar borfeydd ffrwythlon Cymreig glannau'r Fenai. Mae'r cig yn dynerach fyth oherwydd y bywyd hamddenol, ac yn ddiweddarach, trwy drin a chrogi'r cig yn gywir.
- Cig Oen a Chig Eidion a Fagwyd Gartref yn Draddodiadol
- Blas Naturiol Arbennig
- Gwair yw Unig Borthiant ein Gwartheg a'n Hŵyn.
- Dim Porthiant Artiffisial
- Dim Hormonau Tyfu Dim Gwrth Fiotig Rheolaidd
- Sicrhawn Flas a Thynerwch Traddodiadol i'n Cig
- Crogir ein cig traddodiadol a fagwyd ar wair yn ein hoergelloedd (cold rooms) i sicrhau ansawdd blas a thynerwch o'r gorau na ellir ei gael mewn unrhyw fodd arall.
- NATURIOL GYMREIG - NATURIOL DYNER - NATURIOL FLASUS
Diolch am ymweld â'n gwefan. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau, os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.





