ARBENIGWYR PARTÏON MOCHYN RHOST
-
FAQs (cwestiynau sy'n codi'n aml)
gan Bob Jones a'i Fab yr Arbenigwyr Mochyn Rhost
Cael Parti?
Byddwch yn arbenig, meddyliwch yn wahanol - y Ffordd Draddodiadol
I'ch helpu i drefnu eich 'Mochyn Rhost', dyma ychydig o FAQs (Cwestiynau sy'n codi'n aml).
C: Oes modd i chi ddarparu BBQ dan do neu y tu allan?
A: Oes. Y ddau.
C: Beth sy'n gwneud eich cig yn wahanol?
A: Yn ein partïon Mochyn Rhost dim ond Porc Maes a borthir yn yr hen ffordd Gymreig, ar farlys a gwenith wedi'u tyfu gartref.
C: Sut fath o gyfarpar ydych yn eu defnyddio?
A: Mae ein peiriant rhostio mochyn newydd sbon yn unigryw o ran ei adeiledd a safon coginio'r cig.
C: Beth mae "WEDI'U BWYDO AR WAIR YN NATURIOL" yn ei olygu?
A: Chaiff magu fyth ei frysio, ac mae gan yr anifeiliaid fywyd pur fodlon a hamddenol gyda diet o laswellt traddodiadol (gwellt yn y gaeaf), a digonedd o le ac awyr iach.
- Cig Eidion Cymreig
- Yn Naturiol Gymreig
- Yn Naturiol Flasus
- Wedi’u Bwydo ar Wair yn Unig
- Dim Porthiant Synthetig
- Dim Gwrthfiotig
- Dim Hormonau
- Natur yn Unig
C: Pam fod eich cig mor flasus?
A: Daw blas bendigedig ein cig o'r glaswellt a blodau'r ddôl a dyf ar borfeydd ffrwythlon Cymreig glannau'r Fenai. Mae'r cig yn dynerach fyth oherwydd y bywyd hamddenol, ac yn ddiweddarach, trwy drin a chrogi'r cig yn gywir.
- Cig Oen a Chig Eidion a Fagwyd Gartref yn Draddodiadol
- Blas Naturiol Arbenig
- Gwair yw Unig Borthiant ein Gwartheg a'n Hŵyn.
- Dim Porthiant Artiffisial
- Dim Hormonau Tyfu Dim Gwrth Fiotig Rheolaidd
- Sicrhawn Flas a Thynerwch Traddodiadol i'n Cig
- Crogir ein cig traddodiadol a fagwyd ar wair yn ein hoergelloedd i sicrhau ansawdd blas a thynerwch o'r gorau na ellir ei gael mewn unrhyw fodd arall.
C: O ble daw eich cig eidion a'ch cig oen?
A: Gyrr o wartheg Duon Cymreig wedi'u croesi a theirw Limousin a Charolais sydd yma. Rhy hyn flas a thynerwch hynod i'r cig a chyda braster isel y Limousin a'r Charolais, ceir cig eidion o'r ansawdd gorau gyda'r mesurau perffaith.
Caiff ein gwartheg ifanc a'n hŵyn eu magu a'u bwydo, a dysgant bori gan eu mamau, ar ein porfeydd breision ar lan y Culfor Menai. Ymhen amser, cant eu diddyfnu'n naturiol gan eu mamau. Rydym yn ffermio yn yr hen ffordd draddodiadol sydd, fel y gwyddom, yn cynhyrchu'r eidion a'r ŵyn gorau, sy'n fwy blasus a mwy diogel, yn naturiol ac yn y ffordd Gymreig.
C: Beth yw barn eich cwsmeriaid?
A: Cliciwch yma i gael gwybod...
C: Oes gennych chi luniau?
A: Oes - cliciwch yma
C: Sut allwn ni gysylltu â chi?
A: Mae'n rhwydd - cliciwch yma
Diolch am ymweld â'n gwefan. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau, os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.

