ARBENIGWYR PARTÏON MOCHYN RHOST
-
Mochyn Rhost
gan Bob Jones a'i Fab Arbenigwyr Mochyn Rhost
Cael parti?
Byddwch yn arbennig, meddyliwch yn wahanol - Y Ffordd Draddodiadol
Mae ein peiriant rhostio mochyn newydd sbon yn unigryw o ran ei adeiledd a safon coginio'r cig. Yn ein partïon Mochyn Rhost
dim ond Porc Maes, a borthir yn yr hen ffordd Gymreig ar
farlys a gwenith wedi'u tyfu gartref, a ddefnyddir. Daw blas
bendigedig ein cig o'r glaswellt a blodau'r ddôl a dyf ar
borfeydd ffrwythlon Cymreig glannau'r Fenai. Mae'r cig yn
dynerach fyth oherwydd y bywyd hamddenol, ac yn
ddiweddarach, trwy drin a chrogi'r cig yn gywir.
- Cig Oen a Chig Eidion a Fagwyd Mewn Ffordd Draddodiadol ar y Fferm
- Blas Naturiol Arbennig
- Gwair yw Unig Borthiant ein Gwartheg a'n Hŵyn.
- Dim Porthiant Artiffisial
- Dim Hormonau Tyfu Dim Gwrth Fiotig Rheolaidd
- Sicrhawn Flas a Thynerwch Traddodiadol i'n Cig
- Crogir ein cig traddodiadol a fagwyd ar wair yn ein hoergelloedd i sicrhau ansawdd blas a thynerwch o'r gorau na ellir ei gael mewn unrhyw fodd arall.
- NATURIOL GYMREIG - NATURIOL DYNER - NATURIOL FLASUS
Mae Ein Partïon Mochyn Rhost:-
- Ar gael ar unrhyw achlysur
- A gellir darparu ar gyfer digwyddiadau dan do neu y tu allan
NEWYDD: DISGO ar gael.
Yn Bob Jones a'i Fab, yr arbenigwyr Mochyn Rhost, mae gofal a bodlondeb y cwsmer yn hollbwysig. I ddarllen AMBELL i neges gan NIFER o'n cwsmeriaid bodlon, cliciwch yma.
- Fel arall, er mwyn gweld rhai o'r cwestiynau sy'n codi yn aml (FAQs), cliciwch yma.
- Beth am wneud ymholiad ar-lein trwy glicio yma
- I weld lluniau o Bartïon Mochyn Rhost, cliciwch yma.
Diolch am ymweld â'n gwefan. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau, os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.


