cig oen
-
Cig Oen
gan Bob Jones a'i Fab
Caiff ein hŵyn eu magu a'u bwydo, a dysgant bori gan eu mamau ar ein porfeydd breision ar lan y Culfor Menai. Ymhen amser, cant eu diddyfnu'n naturiol gan eu mamau. Rydym yn ffermio yn hen ffordd draddodiadol sydd, fel y gwyddom, yn cynhyrchu'r eidion a'r ŵyn gorau, sy'n fwy blasus a mwy diogel, yn naturiol ac yn y ffordd Gymreig.
WEDI EU MAGU AR BORFA'N NATURIOL
Chaiff tyfu fyth ei frysio, ac mae gan yr anifeiliaid fywyd pur fodlon a hamddenol gyda diet o laswellt traddodiadol (gwellt yn y gaeaf), a digonedd o le ac awyr iach.
- Cig Oen Cymreig Naturiol
- Yn Naturiol Gymreig
- Yn Naturiol Flasus
- Wedi'u Bwydo ar Wair yn Unig
- Dim Porthiant Synthetig
- Dim Gwrthfiotig
- Dim Hormonau
- Natur yn Unig
Daw blas bendigedig ein cig o'r glaswellt a blodau'r ddôl a dyf ar borfeydd ffrwythlon Cymreig glannau'r Fenai. Mae'r cig yn dynerach fyth oherwydd y bywyd hamddenol, ac yn ddiweddarach, trwy drin a chrogi'r cig yn gywir.
- Cig Oen a Chig Eidion a Fagwyd Gartref yn Draddodiadol
- Blas Naturiol Arbennig
- Gwair yw Unig Borthiant ein Gwartheg a'n Hŵyn.
- Dim Porthiant Artiffisial
- Dim Hormonau Tyfu Dim Gwrth Fiotig Rheolaidd
- Sicrhawn Flas a Thynerwch Traddodiadol i'n Cig
Crogir ein cig traddodiadol a fagwyd ar wair yn ein hoergelloedd i sicrhau ansawdd blas a thynerwch o'r gorau na ellir ei gael mewn unrhyw fodd arall.
NATURIOL GYMREIG - NATURIOL DYNER - NATURIOL FLASUS
Diolch am ymweld â'n gwefan. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau, os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.





